Bethan Sayed AC

Cadeirydd

Y Pwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu

4/1/19

Annwyl Bethan Sayed AC

Gosod dyletswyddau Cymraeg drwy gontract ar ddarparwyr gofal sylfaenol

Ysgrifennwn atoch er mwyn gofyn i'r pwyllgor ystyried y dyletswyddau Cymraeg arfaethedig a luniwyd gan yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (gweler isod) ac sydd ar fin cael eu cyflwyno gerbron y Senedd.

Fel y gwyddoch, mae'r sector gofal sylfaenol yn gyfrifol am hyd at naw deg y cant o brofiadau cleifion yn y gwasanaeth iechyd ac, yn wir, y man cychwyn i'r rhan fwyaf ar eu taith ar hyd y llwybr gofal. Am hynny, wrth ystyried yr angen i gynllunio a darparu gwasanaethau trwy'r Gymraeg, gellir dadlau fod gofal sylfaenol yn haeddu'r brif flaenoriaeth. Yn sgil eithrio darparwyr gofal sylfaenol annibynnol o Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Sector Iechyd), mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn awyddus i sicrhau fod y dyletswyddau Cymraeg a osodir drwy gontract gyda darparwyr gofal sylfaenol yn adlewyrchu'r flaenoriaeth hon, gan warchod i'r eithaf hawliau iaith a buddiannau cleifion.

Dylai'r Llywodraeth fod yn ymwybodol o farn gref Aelodau'r Cynulliad ar y mater, fel y nodwyd yn adroddiad trawsbleidiol eich Pwyllgor ynghylch Safonau'r Gymraeg (Rhif 7)1. Fel y gwyddoch, dywed yr adroddiad:

"Un o'r pryderon mwyaf sydd gennym ynghylch y Rheoliadau yw diffyg unrhyw hawl i gael gwasanaethau clinigol wyneb yn wyneb yn Gymraeg neu gyda chymorth Cymraeg ... dylai'r hawl i gael gwasanaeth yn eich iaith o ddewis fod yn egwyddor sefydledig yn y sector cyhoeddus yng Nghymru,... Mewn sawl ffordd, y Gwasanaeth Iechyd yw'r gwasanaeth cyhoeddus pwysicaf y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei ddefnyddio. Mae'r syniad na ddylai'r egwyddor sylfaenol hon fod yn gymwys i'r Gwasanaeth Iechyd hefyd, yn ein barn ni, yn annerbyniol."

"O ystyried mai gwasanaethau gofal sylfaenol yw un o'r gwasanaethau a ddefnyddir amlaf gan y cyhoedd, mae'n amlwg yn faes sy'n peri pryder. ... Nodwn fod y Llywodraeth yn cynnig gosod 'nifer fach o ddyletswyddau Cymraeg' ar ddarparwyr gofal sylfaenol annibynnol gan ddefnyddio'r contract gofal sylfaenol. Bydd hyn yn creu rhwymedigaethau cytundebol rhwng y Bwrdd Iechyd Lleol a'r darparwr annibynnol a orfodir gan y Bwrdd Iechyd Lleol. Rydym yn croesawu'r dull hwn ond, heb wybod beth fyddai'r dyletswyddau, bydd yn anodd gwybod p'un a fyddant yn ddigonol i annog gwelliannau gwirioneddol mewn gwasanaethau Cymraeg."

Fel Grŵp Iechyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, rydym wedi craffu ar y dyletswyddau drafft, gan ddod i'r casgliad eu bod yn llawer rhy wan i annog gwelliannau o'r fath ac yn bell iawn o fodloni argymhellion adroddiad eich pwyllgor. Felly, yn sgil trafod ein pryderon gyda swyddogion y Llywodraeth, roeddem yn falch o gael derbyn gwahoddiad i gynnig diwygio'r geiriad.

Fodd bynnag, ofer bu'r ymdrechion hyn oherwydd ein bod ar ddeall fod y pedwar corff cynrychiadol bellach wedi cytuno'r chwe dyletswydd wreiddiol ac nad yw'r amserlen yn caniatáu newidiadau pellach. Nid ydym yn derbyn bod hynny'n wir, gan i'r Llywodraeth honni'n wreiddiol bod 'cytundeb' rhwng y cyrff yn ein cyfarfod gyda ni, ond wedi i ni holi ymddengys nad oedd cytundeb ffurfiol, ond, yn hytrach, dealltwriaeth rhwng cyrff nad oedd ewyllys gweinyddol i'w newid. Yn ogystal, credwn yn gryf nad lle gweision sifil a chyrff anetholedig yw pennu hawliau cleifion i'r Gymraeg ond, yn hytrach, priod waith y Senedd fel ein corff democrataidd cenedlaethol.

Am hynny, rydym yn galw ar aelodau'r Pwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu i wneud safiad wrth i'r dyletswyddau ddod gerbron y Senedd gan ystyried cyflwyno'r diwygiadau a welir isod mewn llythrennau bras:

Y dyletswyddau arfaethedig i'w gosod ar gontractwyr yw:

Rhif

Cynigion Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Diwygiadau arfaethedig Cymdeithas yr Iaith

1

darparu gwybodaeth i'r Bwrdd Iechyd Lleol am y gwasanaethau gofal sylfaenol mae'r contractwr yn gallu eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg

darparu gwybodaeth i'r Bwrdd Iechyd Lleol am y gwasanaethau gofal sylfaenol mae'r contractwr yn gallu eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg; gan rannu'r wybodaeth honno gyda chleifion ac aelodau'r cyhoedd ar wefan y contractwr ac wrth arddangos arwyddion a hysbysiadau

2

manteisio ar y gwasanaeth cyfieithu a gynigir gan y Bwrdd Iechyd Lleol er mwyn darparu arwydd dwyieithog wrth osod arwydd mewn cysylltiad â gwasanaethau a ddarperir ar ran y Bwrdd Iechyd Lleol

manteisio ar y gwasanaeth cyfieithu a gynigir gan y Bwrdd Iechyd Lleol er mwyn darparu gwybodaeth a chynnig gwasanaethau Cymraeg (mewn ffordd nad yw'n trin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg), gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, arwyddion, hysbysiadau, tudalennau gwe, systemau ar-lein, systemau rhyngweithiol a pheiriannau hunan-wasanaeth

3

Rhoi ar gael i gleifion a ac aelodau o'r cyhoedd unrhyw fersiwn Gymraeg o'r ddogfen a ffurflenni a ddarperir i'r contractwr gan y Bwrdd Iechyd Lleol

cynnig yn rhagweithiol i gleifion ac aelodau o'r cyhoedd unrhyw fersiwn Gymraeg o'r ddogfen a'r ffurflenni a ddarperir i'r contractwr gan y Bwrdd Iechyd Lleol, gan sicrhau bod y ddogfennaeth Gymraeg ar gael ar yr un pryd, ac yr un mor hwylus, ag unrhyw fersiwn Saesneg

4

annog eu staff sy'n siarad Cymraeg i wisgo bathodyn a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol sydd yn cyfleu bod y sawl sy'n ei wisgo yn gallu siarad Cymraeg

annog eu staff sy'n siarad Cymraeg i wisgo bathodyn / llinyn a ddarperir gan y Bwrdd Iechyd Lleol sydd yn cyfleu bod y sawl sy'n ei wisgo yn gallu siarad Cymraeg neu yn dysgu Cymraeg; a rhannu'r wybodaeth honno gyda chleifion ac aelodau'r cyhoedd ar wefan y contractwr ac wrth arddangos arwyddion a hysbysiadau

5

annog a darparu cyfleoedd ar gyfer eu staff i fynychu cyrsiau hyfforddiant a digwyddiadau a drefnwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol, a rhoi ar gael i'r staff wybodaeth a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol, i ddatblygu eu hymwybyddiaeth o'r Gymraeg a dealltwriaeth o sut i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle

rhyddhau staff i fynychu cyrsiau hyfforddi a digwyddiadau a drefnwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol, a rhoi ar gael i'r staff wybodaeth a ddarparwyd gan y Bwrdd Iechyd Lleol, i ddatblygu eu hymwybyddiaeth o'r Gymraeg, i'w dysgu, neu gloywi eu Cymraeg a dysgu sut i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle

6

annog cofnodi'r cynnig rhagweithiol a dewis iaith cleifion

cofnodi'r cynnig rhagweithiol a dewis / angen iaith cleifion; a throsglwyddo'r wybodaeth honno wrth gyfeirio cleifion ar hyd y llwybr gofal ac at wasanaethau eraill

Yn ogystal â'r chwe phwynt uchod, mae'r Gymdeithas yn gryf o'r farn y dylid ychwanegu'r dyletswyddau canlynol er mwyn annog darparwyr i flaengynllunio o ran recriwtio a dyrannu staff sy'n siarad Cymraeg:

  1. hwyluso gwasanaethau wyneb yn wyneb yn Gymraeg, gan gynnwys mewn derbynfeydd a lleoliadau gwasanaeth eraill;
  2. hwyluso cyfarfodydd personol yn Gymraeg, gan gynnwys cyfarfodydd sy'n ymwneud â lles personol.

 

Nodwyd pwysigrwydd eithriadol y ddau gymal uchod gan eich pwyllgor yn eich adroddiad ar y mater y llynedd.

Ymhellach, credwn fod angen yn y cytundeb rôl swyddogol er mwyn i'r Comisiynydd fonitro a gorfodi'r amodau iaith ynddo, megis drwy gymal sy'n amlinellu rôl ffurfiol yn broses gwyno.

Hyderwn yn fawr y bydd ein sylwadau uchod yn dderbyniol i chi a chawn dderbyn eich cefnogaeth.

Yn gywir

Gwerfyl Roberts

Cadeirydd, Grŵp Iechyd, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg